|
Website URL : http://www.adsscymru.org.uk/index.cfm?articleid=2002
- Rydych chi yma:
- Hafan /
- Amdanom Ni
|
|
||
Amdanom Ni
) Mae yn y Gymdeithas gyfarwyddwyr statudol y gwasanaethau cymdeithasol a'r penaethiaid sy'n eu helpu i gyflawni cyfrifoldebau'r gwasanaethau cymdeithasol a bod yn atebol amdanyn nhw – rhyw 80 o bobl sy'n arwain gwasanaethau cymdeithasol 22 awdurdod lleol Cymru.
Gweledigaeth ADSS Cymru yw: Bod y sefydliad arweinyddiaeth proffesiynol a strategol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Amcanion Strategol
1) Hyrwyddo a gyrru'r broses o weithredu 'Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol'.
2) Llunio a dylanwadu ar y broses o ddatblygu polisïau cyhoeddus led led Cymru.
3) Gweithio gyda'r holl bartneriaid i arwain ar drawsffurfio'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaethau modern, hygyrch ac ymatebol, sy'n cael eu darparu'n hyblyg, yn gyson ac yn gynaliadwy ar draws ffiniau sefydliadol.
4) Sicrhau bod gan y gwasanaethau cymdeithasol lais cryf o fewn canolbwynt corfforaethol llywodraeth leol.
5) Gweithio gyda'r holl bartneriaid i sicrhau gwasanaeth cyhoeddus rhagorol ar draws Cymru.
6) Datblygu a chryfhau perthnasau rhwng comisiynwyr a darparwyr y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
7) Darparu arweiniad cadarn ar gyfer gweithlu'r gwasanaethau cymdeithasol.
8) Hyrwyddo a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o'r gwasanaethau cymdeithasol a'r rôl gadarnhaol y mae'n ei chwarae trwy gysylltu â'r cyfryngau, y rhai sy'n llunio barn a'r cyhoedd yn gyffredinol.
|